1. Asesu trefniadau gweithredu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 hyd yn hyn, gan gynnwys:

 

I ba raddau y mae'r amcanion a nodwyd yn y Ddeddf Teithio Llesol yn cael eu cyflawni;

 

1.1. Prif amcan y Ddeddf yw –

“...gwneud teithio llesol yr opsiwn mwyaf deniadol ar gyfer y rhan fwyaf o siwrneiau byr”

Mae'r Awdurdodau a ddilynodd y broses a nodwyd yn y Ddeddf ac a wnaeth ymgynghori, archwilio a mapio llwybrau ar lwyfan Teithio Llesol Llywodraeth Cymru bellach yn cael eu cosbi gan nad oes cyllid ar gael ar gyfer y llwybrau “parod i dyllu”. Mae'r rhain wedi cael eu rhoi ar restr o gynlluniau wrth gefn. Trefnwyd bod arian ar gael ar gyfer astudiaethau dichonoldeb a ddylai ond bod yn angenrheidiol ar gyfer cynlluniau hirdymor yn unig (hyd at 15 mlynedd) ac nid ar gyfer llwybrau Mapiau Rhwydwaith Integredig (INM) yn y byrdymor a'r tymor canolig pe baent yn cael eu harchwilio'n briodol. Mae'r ALlau na wnaethant archwilio darpar lwybrau'n cael eu gwobrwyo ac mae'r rhai sy'n barod i'w hadeiladu bellach yn cael eu gohirio. Mae hyn yn atal yr amcanion rhag cael eu cyflawni ac yn glastwreiddio'r Ddeddf.

 

1.2 Os bydd Llywodraeth Cymru yn methu'r INM a gyflwynwyd gan yr Awdurdodau, byddai hyn yn cael effaith negyddol ar ysbryd swyddogion ALl ac yn arwain at wrthgilio yn y broses a byddai, yn anochel, yn golygu y byddai mwy o adnoddau'n cael eu cyfeirio at y fenter. Pe bai'n cymeradwyo pob Awdurdod, byddai'r rhai sydd wedi mynd gam ymhellach yn ei ystyried yn anghymhelliad i barhau i'r un perwyl, gan ymgysylltu â'r hyn sydd, ar hyn o bryd, yn adnoddau cyfyngedig i'r broses. Mae angen rhywfaint o eglurhad. Os yw Llywodraeth Cymru am i grwpiau pwysau lleol blismona ALlau, mae hyn yn annhebygol o ddigwydd gan fod tystiolaeth o'r ymateb cyfyngedig a gafwyd yn y cam ymgynghori yn awgrymu diffyg diddordeb cyffredinol er gwaethaf hysbysebu'r broses yn helaeth.

Effeithiolrwydd is-ddeddfwriaeth a chanllawiau a wnaed o dan y Ddeddf;

 

1.3 Dylai is-ddeddfwriaeth teithio llesol gael ei hadolygu a dylai'r gwaith mireinio ddod o du ALlau. Gobeithio y caiff y broses hon ei chynnal yn rheolaidd, gan nodi sylwadau.

1.4Pwysleisiodd y canllawiau waith datblygu llwybrau newydd, ond nid oedd hyn yn ymarferol yn ardaloedd ffiniau tyn y trefi marchnad gwledig. Fel awdurdod, gwnaethom edrych ar ddiogelwch beicwyr a cherddwyr mewn llawer o strydoedd yn hytrach na chanolbwyntio ar nifer gyfyngedig o lwybrau arfaethedig. Yr ymateb cyfyngedig a gafwyd gan y cyhoedd oedd eu bod am weld gwelliannau i'r llwybrau cyffredin roeddent yn eu defnyddio. Arweiniodd y gwaith o ymchwilio i'r rhain a'u harchwilio at gynlluniau “parod i dyllu” byrdymor a oedd yn gofyn am gyllid. Erbyn hyn, mae'r rhain wedi'u hychwanegu at restr wrth gefn ar gyfer cyllid gyda'r cynlluniau mwy uchelgeisiol yn cael eu hariannu ar ffurf astudiaethau dichonoldeb.

1.5Oherwydd dull sgorio'r broses o archwilio llwybrau cerdded a beicio, lle nad oedd ffactor yn berthnasol i safle penodol, roedd y pwyntiau llawn yn cael eu rhoi iddo'n awtomatig. Roedd hyn yn golygu mai sgôr ffug oedd y canlyniad terfynol, felly nid oedd yr adnodd archwilio'n addas at y diben. Roedd y ffurflen archwilio'n seiliedig ar ffactorau a gafwyd yn yr amgylchedd trefol a oedd yn golygu bod yn rhaid i'r awdurdodau gwledig ddefnyddio adnodd nad oedd yn berthnasol.   

1.6Roedd yr adnodd archwilio llwybrau cerdded yn wrthrychol iawn ac, fel y cyfryw, nid oedd yn bosibl cynnig y gwaith ar gontract i gorff allanol gan y gallai'r ffurflen gael ei dehongli'n wahanol gan bobl wahanol ac yna nid oes cysondeb yn y dull gweithredu. Ychwanegodd hyn bwysau ar Awdurdodau Lleol.

1.7Mae'r ymgynghoriad y cyfeirir ato yn y canllawiau'n nodi pwysigrwydd ymgysylltu cyn llunio ERM ac INM. O ran yr ERM, nid oedd yr ymgyngoreion yn deall y perthnasedd ac roeddent am awgrymu llwybrau newydd y gellid eu datblygu, ond roedd hyn yn rhan o gam nesaf yr INM. Dechreuodd rhai ALlau lunio cynlluniau a oedd yn dangos INM lle ymgynghorodd eraill â llechen lân er mwyn canfod yr hyn roedd ei angen ar gymunedau cyn cyhoeddi canlyniadau'r ymgyngoriadau hyn er mwyn cael fersiwn derfynol o gynllun yr INM. Mae angen cael cysondeb yn y dull gweithredu a dylai Llywodraeth Cymru nodi isafswm lefel yr ymgynghoriad sy'n ofynnol. Mae ymgynghori'n broses ddrud gyda chostau cyfieithu a gwaith llunio holiadur a llunio cynlluniau'n mynd ag amser. Roedd llunio cynlluniau ar gyfer y broses ymgynghori yn weithdrefn hirfaith gan fod y rhai a ddatblygwyd oddi ar system Llywodraeth Cymru yn aneglur ac nid oedd yn hawdd eu defnyddio ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Treuliwyd llawer o amser yn eu trosi i ddogfennau PDF ar gyfer y broses ymgynghori. Roedd y demograffig a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad yn gyfyngedig ac roedd yn rhaid gwneud ymdrech ar y cyd i fynd allan a siarad â grwpiau penodol yn y gymuned yn hytrach na hysbysebu digwyddiad a disgwyl iddynt ddod iddo. Ni ddilynwyd y cyfnod ymgynghori 12 wythnos a nodwyd yn y canllawiau gan rai ALlau. Roedd y rhai a wnaeth ddilyn y canllawiau'n teimlo bod y cyfnod hwn yn rhy hir. Drwy ddilyn y canllawiau, amser cyfyngedig oedd ganddynt i oruchwylio'r broses a gynyddodd y llwyth gwaith ar staff ymhellach.

 

Unrhyw gam gweithredu y dylid ei gymryd i wella effeithiolrwydd y Ddeddf a'r broses o'i rhoi ar waith;

1.8 Mae angen rhoi blaenoriaeth uchel i gymorth technegol a gweithdai mapio er mwyn cefnogi awdurdodau lleol lle mae adnoddau cyfyngedig i'w cymryd ar y cam hwn yn y broses. Mae angen hyfforddiant o ran y Canllawiau Dylunio gydag anghenion y peiriannydd traffig trefol yn wahanol iawn i'r peirianwyr hynny sy'n gweithio mewn amgylchedd mwy gwledig sydd dan fwy o gyfyngiad o ran yr hyn y gallant ei wneud mewn ardaloedd cadwraeth o fewn trefi hanesyddol. Dylid cynnal adolygiad o'r Ddeddf o safbwynt gwledig. Nododd y Bil, pan gafodd ei lunio, fod y ddeddfwriaeth “yn canolbwyntio ar ardaloedd trefol yn bennaf, ond efallai y byddai llwybrau gwledig yn briodol ar gyfer cysylltu aneddiadau os yw'r pellter a'r graddiant yn ei gwneud yn bosibl teithio drwy ddulliau llesol.” Mae'r dimensiwn gwledig yn y Ddeddf yn teimlo fel rhywbeth ychwanegol; ni chafwyd llawer o ystyriaeth i'r ffordd y gall aneddiadau gwledig gymryd rhan yn y broses gan fod angen cyflwyno newidiadau sylfaenol er mwyn ei gwneud yn addas at y diben yng Nghymru wledig.

 

1.9 Nid yw llwyfan teithio llesol Llywodraeth Cymru a luniwyd i Awdurdodau Lleol ei ddefnyddio yn cyd-fynd â fformatau'r Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol y mae Awdurdodau Lleol yn eu defnyddio bob dydd.  Roedd hyn yn golygu bod data yn cael eu trin ddwywaith i bob pwrpas; gan olygu bod angen i Swyddogion Llywodraeth Leol fewnbynnu a gwirio llwybrau sydd eisoes wedi'u mapio ar y Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol y mae Awdurdodau Lleol yn berchen arnynt ac yn eu cynnal. Dylai'r system fod yn gydnaws er mwyn ei defnyddio'n hawdd.

 

1.10 Gan nad yw'r system yn wynebu'r cyhoedd, ni all y cyhoedd weld mewnbynnau'r Mapiau Llwybrau sy'n Bodoli Eisoes (ERM) na'r INM. Er ei bod yn ofynnol i Awdurdodau Lleol gynnal y mapiau hyn ar eu gwefannau fel dogfennau PDF, mae hyn yn gwbl anaddas yn y rhan fwyaf o achosion er mwyn dangos y data sydd yn y system yn ddigonol.

 

1.11 Mae angen proses symlach gyda map sy'n ffurfio rhyngwyneb â'r cyhoedd a fyddai'n galluogi rhanddeiliaid i blotio eu hawgrymiadau/gwelliannau llwybr yn uniongyrchol. Yna, gallai awdurdodau archwilio'r rhain ac efallai y byddai hyn hyd yn oed wedi annog mwy o randdeiliaid i gymryd rhan yn y broses. Fel y mae, mae'n ymddangos bod y system yn ymwneud â phroses yn unig a oedd yn llawn anawsterau o'r dechrau i'r diwedd, gan atal amcanion teithio llesol

 

1.12 Bydd mwy o gyfathrebu rhwng ALlau a Llywodraeth Cymru yn gwella effeithiolrwydd y Ddeddf a'r broses o'i rhoi ar waith.

 

I ba raddau y mae'r Ddeddf wedi cynrychioli gwerth am arian ac y bydd yn parhau i wneud hynny.

 

1.13 Arweiniodd anawsterau technegol mewn cysylltiad ag archwiliadau a'r system mapio at wastraffu adnoddau ac amser swyddogion.

1.14Dyrannodd Llywodraeth Cymru £200,000 i'r broses ymysg y 22 ALl, sef £9,090 fesul cyngor ar gyfartaledd. Roedd y cymorth ariannol yn ddigonol i gyflawni'r mymryn lleiaf o ran cydymffurfio â'r Ddeddf. Pe bai mwy o adnoddau wedi bod ar gael, byddai'r asesiadau o'r galw i ddefnyddio'r llwybrau yn y dyfodol wedi bod yn fanylach a byddai cynlluniau wedi'u blaenoriaethu ymhellach. Gallai'r cyfyngiadau ar arian cynghorau a chyllidebau ffordd fawr a'r baich gwaith os caiff y broses ei chynnal yn briodol arwain at ddisgwyliadau uwch na ellid eu gwireddu o bosibl. Gallai ALlau ganfod eu bod wedi ymrwymo i nifer o gynlluniau na ellir eu cyflawni.

 

 

2. Asesu effeithiolrwydd y polisi teithio llesol ehangach i gefnogi'r gwaith o gyflawni Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, gan gynnwys:

 

Effeithiolrwydd y Cynllun Gweithredu Teithio Llesol;

       

2.1 Mae angen adolygu'r Cynllun Gweithredu yn rheolaidd er mwyn iddi fod yn ddogfen gyfredol sy'n adlewyrchu'r cynnydd sy'n cael ei wneud.

 

2.2 Mae'r Cynllun Gweithredu yn nodi bod gan ALlau ddyletswydd i hyrwyddo teithio llesol, ond ni nodir sut y caiff hyn ei gyflawni. Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi datblygu pecyn cymorth hyrwyddo ac ymgysylltu sy'n casglu arfer gorau a'r adnoddau sydd ar gael. Nid yw hyn ar gael eto.

 

2.3 Mae'n rhaid i ALlau gyfrannu at y Cynllun Gweithredu o ran monitro canlyniadau targedau penodol, ond nid oes gan ALlau adnoddau i olrhain y dangosyddion hyn. Cymerir data teithio'r boblogaeth o'r Arolwg Cenedlaethol, ond mae mynegeion sy'n benodol i'r modd teithio i'r ysgol yn dod gan ALlau nad oes ganddynt adnoddau i fonitro hyn yn effeithiol.

 

P'un a oes arian a chapasiti digonol ar gael i roi cymorth wrth weithredu'r Ddeddf ei hun a'r polisi teithio llesol ehangach;

2.4Dylai trefniadau ariannu ar ôl cwblhau INM fod wedi'u hystyried cyn hyn er mwyn ysgogi Awdurdodau Lleol ac er mwyn iddynt weld ymrwymiad hirdymor gan Lywodraeth Cymru. O ran capasiti, mae'r lefel sgiliau sydd ar gael mewn ALlau yn gyfyngedig gan nad yw ALlau yn cyflogi llawer o swyddogion beicio.

 

Gweithredu'r Bwrdd Teithio Llesol;

2.5 Fel arfer, mae CLlLC yn anfon nodiadau o gyfarfodydd y Bwrdd Teithio Llesol, ond nid ydym wedi derbyn unrhyw beth ers y cyfarfod ar 19 Hydref 2017. Mae e-bost yn uniongyrchol i ALlau gan CLlLC yn gweithio'n dda o ran lledaenu gweithgarwch y Bwrdd. Bydd y cofnodion yn fwy defnyddiol nag adroddiad cryno sydd ar y wefan.

 

2.6Nid yw'n glir iawn o'r agenda na nodiadau'r cyfarfod beth yw'r cynllun strategol. Er enghraifft, nid oes eitem benodol ar yr agenda sy'n cyfeirio at adolygu'r “Cynllun”. Hefyd, nid oes llawer o gyfeiriad at ddata perfformiad na phennu targedau. Mewn geiriau eraill, mae'n debyg nad oes llawer o ffocws strategol ar ble rydym nawr, a ble rydym am fod ymhen 4 blynedd (caiff hyn ei gymhlethu am nad oes ymrwymiad i strwythur ariannu y tu hwnt i'r 12 mis nesaf).

 

2.7Dylai'r Bwrdd ddarparu'r fforwm i rannu gwybodaeth, goruchwylio gwaith y grwpiau Tasg a Chydlynu a gweithredu fel fforwm tasg a chydlynu strategol. Dylai'r Bwrdd fod yn gwneud penderfyniadau strategol ar reoli cyfeiriad Teithio Llesol. Mae'r diffyg adborth i ALlau ynghylch y broses yn peri pryder penodol. Nid yw'r broses a'r diffygion yn y dull cyflawni gan ALlau, sydd wedi'u mygu gan y broses, wedi'u cwmpasu, ond mae'n rhaid bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cael adborth. Dylai hyn fod yn rhan amlwg iawn o rôl y Bwrdd i sicrhau y caiff y Ddeddf ei chyflawni.

 

P'un a yw teithio llesol wedi'i integreiddio'n effeithiol ym mholisi ehangach Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.

 

2.8 Roedd ffordd osgoi Robeston Wathen ar gefnffordd yr A40 yn gyfle gwych i gynnwys Llwybr Defnydd a Rennir (SUP) dros ran o'i hyd, ond cafodd ei golli. Eto, cynigir ffordd osgoi Llanddewi Felffre ar yr A40 heb SUP. Nid oedd y cynllun ffordd osgoi cyntaf a gafodd ei gymeradwyo ar ôl cyflwyno deddfwriaeth teithio llesol, sef ffordd osgoi Caernarfon a Bontenewydd, yn ystyried y Ddeddf chwaith. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfleusterau teithio llesol ochr yn ochr â ffyrdd newydd ac mae hyn yn ddiffyg sylweddol gan Lywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y ddeddfwriaeth.

 

2.9 Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi defnyddio'r adnoddau archwilio sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf i asesu'r cyfleusterau Cerdded a Beicio ar Gefnffyrdd yng Nghymru cyn anfon y rhain i ALlau. Dim ond nawr mae hyn yn cael ei wneud. Yna, byddai rhywfaint o eglurder yn hytrach na bod yn rhaid i ALlau lunio barn ar y rhwydwaith Cefnffyrdd nad fyddai o bosibl yn gweddu i gynlluniau strategol y rhwydwaith teithio llesol.

Nid oedd yn glir a ddylai Cefnffyrdd, a gaiff eu rheoli gan yr Asiantaethau Cefnffyrdd yn hytrach nag Awdurdodau Lleol, gael eu cynnwys yn yr INM. Ni chafodd hyn ei ddatrys yn foddhaol ac, erbyn hyn, mae angen i'r Asiantaeth Cefnffyrdd ystyried y mater yn ôl-weithredol mewn partneriaeth â Llywodraeth Leol.

2.10 Roedd y methiant ERM gan y rhan fwyaf o ALlau yn gwbl annisgwyl.   Nododd y canllawiau fod Llywodraeth Cymru am gael un neu ddwy frawddeg yn egluro pam roedd y llwybrau wedi methu yn y datganiadau. Yna, roedd angen rhagor o wybodaeth ar ôl ei chyflwyno gan yr awdurdodau a fethodd. Cafodd ychydig o ALlau a dynnodd eu datganiad allan a, thrwy hynny, heb ddangos rhwydwaith cyflawn, eu gwobrwyo â llwyddiant. (Methodd yr ALlau a ddefnyddiodd Sustrans i wneud eu ERM, ond defnyddiwyd Sustrans gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno gweithdai teithio llesol a dangos arfer gorau. Os na all Sustrans gael pethau'n gywir, sut y gellir disgwyl i ALl sydd heb fawr ddim gwybodaeth am syniadau Llywodraeth Cymru lwyddo i wneud hynny)

 

2.11 Roedd peirianwyr a llunwyr polisi Llywodraeth Cymru yn anghyson o ran yr ERM. Roedd y cynllunwyr am gael llwybrau â datganiadau wedi'u cynnwys yn yr ERM gan eu bod am gael rhwydwaith llawn o'r llwybrau wedi'u mapio. Roedd peirianwyr Llywodraeth Cymru am fethu pob ERM nad oeddent yn bodloni'r safonau dylunio newydd. Roedd hyn yn broblem sylfaenol a ddylai fod wedi'i datrys cyn i ALlau gyflwyno cynlluniau.